Rydym yn casglu rhywfaint o wybodaeth neu ddata amdanoch chi pan rydych yn defnyddio workplacepensions.gov.uk
Mae hyn yn cynnwys:
Mae hyn yn ein helpu i:
Ni allwn eich adnabod yn bersonol drwy ddefnyddio eich data.
Yn gyffredinol nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel, ac ni allwn warantu diogelwch eich data.
Bydd unrhyw ddata a drosglwyddwch ar eich risg eich hun.
Mae gennym weithdrefnau a nodweddion diogelwch mewn lle i geisio cadw eich data yn ddiogel unwaith y byddwn wedi’i dderbyn.
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliadau eraill ar gyfer dibenion marchnata, ymchwil marchnad neu fasnachol, ac nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i wefannau eraill.
Bydd trafodion talu bob amser yn cael eu hamgryptio.
Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol os oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, neu os oes rhaid i ni orfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill y llywodraeth am resymau cyfreithiol.
Gallwch ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, a gofyn i ni beidio รข defnyddio unrhyw ran o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu.
Mae workplacepensions.gov.uk yn cynnwys dolenni i ac o wefannau eraill.
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, ac nid yw’n cynnwys safleoedd eraill rydym yn cysylltu iddynt.
Os byddwch yn mynd i wefan arall o’r un yma, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan i gael gwybod beth mae’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth.
Os byddwch yn dod i workplacepensions.gov.uk o wefan arall, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi o’r wefan arall. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan rydych wedi dod ohoni i gael gwybod mwy am hyn.