Rydym yn casglu rhywfaint o wybodaeth neu ddata amdanoch chi pan rydych yn defnyddio workplacepensions.gov.uk

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cwestiynau, ymholiadau neu adborth rydych yn ei adael, yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost os byddwch yn anfon e-bost i GOV.UK.
  • Eich cyfeiriad IP a manylion pa fersiwn o borwr gwefan a ddefnyddwyd gennych.
  • Gwybodaeth am sut y byddwch yn defnyddio’r safle, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalen i’n helpu i wella’r wefan.
  • Manylion i’ch galluogi i gael mynediad i’n gwefan, e.e. cyfeiriad e-bost (byddwch bob amser yn cael gwybod pan fydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu, a bydd ond yn cael ei ddefnyddio at y diben rydych yn ei ddarparu ar ei gyfer).

Mae hyn yn ein helpu i:

  • Gwella’r safle trwy fonitro sut rydych yn ei ddefnyddio.
  • Ymateb i unrhyw adborth a anfonwch atom, os ydych wedi gofyn i ni.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau lleol os ydych yn dymuno ei gael.

Ni allwn eich adnabod yn bersonol drwy ddefnyddio eich data.

Ble mae eich data yn cael ei storio

  • Rydym yn storio eich data ar ein serfiwr diogel yn y DU.
  • Gall hefyd gael ei storio y tu allan i Ewrop,lle y gallai ei weld gan ein staff neu gyflenwyr.
  • Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i hyn.

Cadw eich data yn ddiogel

Yn gyffredinol nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel, ac ni allwn warantu diogelwch eich data.

Bydd unrhyw ddata a drosglwyddwch ar eich risg eich hun.

Mae gennym weithdrefnau a nodweddion diogelwch mewn lle i geisio cadw eich data yn ddiogel unwaith y byddwn wedi’i dderbyn.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliadau eraill ar gyfer dibenion marchnata, ymchwil marchnad neu fasnachol, ac nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i wefannau eraill.

Bydd trafodion talu bob amser yn cael eu hamgryptio.

Datgelu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol os oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, neu os oes rhaid i ni orfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill y llywodraeth am resymau cyfreithiol.

Eich hawliau

Gallwch ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, a gofyn i ni beidio รข defnyddio unrhyw ran o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu.

Dolenni i wefannau eraill

Mae workplacepensions.gov.uk yn cynnwys dolenni i ac o wefannau eraill.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, ac nid yw’n cynnwys safleoedd eraill rydym yn cysylltu iddynt.

Dilyn dolen i wefan arall

Os byddwch yn mynd i wefan arall o’r un yma, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan i gael gwybod beth mae’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i GOV.UK o wefan arall

Os byddwch yn dod i workplacepensions.gov.uk o wefan arall, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi o’r wefan arall. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan rydych wedi dod ohoni i gael gwybod mwy am hyn.