Cyflogwyr

O ganlyniad i ymrestru awtomatig, mae miliynau o bobl nawr gyda’r cyfle i ddechrau adeiladu eu cynilion ar gyfer eu hymddeoliad.

O dan y Ddeddf Pensiynau 2008, mae’n rhaid i bob cyflogwr yn y DU roi eu gweithwyr cymwys i mewn i gynllun pensiwn a, ble mae’n briodol, talu cyfraniadau. Gelwir hyn yn ymrestru awtomatig.

Os ydych yn cyflogi o leiaf un person rydych yn gyflogwr ac mae gennych rhai dyletswyddau cyfreithiol. Darganfyddwch sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol i chi drwy ymweld â thudalennau cyflogwyr Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR).

Ydych chi’n cyflogi rhywun ar hyn o bryd?

Os ydych, mae’n bwysig eich bod yn deall beth i’w wneud ac erbyn pryd, fel eich bod yn gallu cwrdd â’ch dyletswyddau ymrestru awtomatig. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio teclyn ar-lein Y Rheoleiddiwr Pensiynau i wirio eich dyletswyddau.

Ddim yn siŵr os ydych yn gyflogwr?

Os ydych yn didynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o gyflog y person rydych yn eu cyflogi, yna fel arfer chi yw eu cyflogwr. Os ydych wedi defnyddio asiantaeth i recriwtio’r person a’r asiantaeth sy’n talu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yr asiantaeth yw’r cyflogwr ac nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Darganfyddwch sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol i chi drwy ddefnyddio’r teclyn ar-lein ar wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

Ewch i wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau a defnyddiwch y teclyn ar-lein i gael mwy o wybodaeth ar beth rydych angen ei wneud ac erbyn pryd.

Cyfrifoldebau parhaus

Mae ymrestru awtomatig yn gyfrifoldeb parhaus i gyflogwyr, ac mae dyletswyddau parhaus i’w cyflawni ar ôl i chi gwblhau eich datganiad cydymffurfiaeth.

Er enghraifft, bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr, yn cynnwys dechreuwyr newydd, mae’n rhaid i chi asesu eu hoedran ac enillion i weld a oes angen iddynt gael eu rhoi i mewn i gynllun pensiwn a faint sydd angen i chi ei dalu i mewn. Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n ymwneud â’ch cynllun, a rheoli unrhyw geisiadau i ymuno neu ei adael.

Darganfyddwch mwy am y dyletswyddau parhaus sydd gennych fel cyflogwr ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Ail-ymrestru ac ail-ddatgan

Bob tair blynedd bydd angen i chi roi unrhyw un o’ch gweithwyr cymwys oedd wedi eithrio allan yn flaenorol, neu wedi stopio cynilo i mewn i’ch cynllun pensiwn, yn ôl i mewn iddo. Gelwir hyn yn ail-ymrestru – mae’n broses dau gam, sydd wedi’i gwblhau unwaith y byddwch wedi ail-ddatgan eich cydymffurfiaeth. Mae gan Y Rheoleiddiwr Pensiynau wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

Darganfyddwch eich cyfrifoldebau. Dyma’r gyfraith.

Cynnal cyfraniadau

Ni fydd eich dyletswyddau cyfreithiol yn dod i ben ar ôl i chi sefydlu cynllun pensiwn a rhoi eich staff cymwys i mewn iddo. Rhaid i chi barhau i wneud y taliadau sy’n ddyledus i’r cynllun bob tro y byddwch yn rhedeg y gyflogres – sydd yn rhaid bod o leiaf yr isafswm cyfreithiol. Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn monitro’r cyfraniadau a delir i bensiynau gweithle, a gallant ddweud os nad yw taliadau sy’n ddyledus yn cael eu gwneud i mewn i gynllun cofrestru awtomatig eich staff. Bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau yn gweithredu os na fyddwch yn cydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol parhaus, ac efallai y bydd angen i chi ôl-ddyddio unrhyw daliadau a gollwyd. Darganfyddwch mwy am eich dyletswyddau parhaus ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Pwy yw’r Rheoleiddiwr Pensiynau?

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn gorff cyhoeddus a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i reoleiddio pensiynau sy’n seiliedig ar waith.  Mae gwybodaeth a help ar gael ar eu gwefan a gallant ysgrifennu atoch am eich dyletswyddau ymrestru awtomatig fel cyflogwr.

Ymwelwch â’r Rheoleiddiwr Pensiynau