Gweithwyr

O ganlyniad i Ymrestru Awtomatig, mae miliynau o weithwyr nawr gyda’r cyfle i ddechrau adeiladu cynilion ar gyfer eu hymddeoliad.

Mae miliynau o weithwyr yn cael eu cofrestru’n awtomatig i mewn i bensiwn gweithle gan eu cyflogwr. Mae cynilo arian i bensiwn gweithle yn hawdd – does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth. Ar ôl i chi gael eich ymrestru gan eich cyflogwr, nid yn unig y byddwch chi’n talu i’r cynllun, ond bydd eich cyflogwr hefyd ac efallai byddwch hefyd yn cael rhyddhad treth gan y Llywodraeth.

Gall pensiynau gymryd nifer o wahanol ffurf ac efallai yn y gorffennol mae’ch cyflogwr wedi rhoi gwahoddiad i chi ymuno â phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio neu bensiwn personol. Darganfyddwch fwy am y gwahanol fathau o bensiwn.

Bydd angen i’ch cyflogwr eich ymrestru i gynllun pensiwn gweithle os:

Gallwch ddewis eithrio allan os ydych yn dymuno, ond mae hynny yn golygu colli allan ar gyfraniadau gan gyflogwr a’r llywodraeth – ac os byddwch yn aros i mewn, bydd gennych eich pensiwn eich hun y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

O’r 6 Ebrill 2018, mae’r isafswm cyfraniadau ar gyfer pensiwn gweithle wedi codi.

Dyddiad yn effeithiolIsafswm cyfraniad cyflogwrCyfraniad gweithiwrCyfanswm isafswm y cyfraniad
Yn bresennol hyd at 5 Ebrill 20192%3%5%
o'r 6 Ebrill 2019 ymlaen3%5%8%

Noder Efallai y byddwch chi a / neu’ch cyflogwr eisoes wedi dewis i dalu mwy nag isafswm y cyfraniadau. Os yw eich taliadau yn fwy na’r lefelau isafswm uwch, nid oes angen i chi dalu mwy.