Cyflogwyr Newydd

O ganlyniad i Ymrestru Awtomatig, mae miliynau o bobl nawr gyda phensiwn gweithle. Darganfyddwch sut mae hyn yn effeithio eich cleientiaid.

Mae Ymrestru Awtomatig nawr yn golygu bod gan filiynau o bobl y cyfle i ddechrau adeiladu cynilion ar gyfer eu hymddeoliad.

Bellach mae gan filiynau o bobl ledled y DU y tawelwch meddwl y mae cynilo ar gyfer bywyd yn ddiweddarach yn dod gydag ef – diolch i ymrestru awtomatig. Gyda phensiynau gweithle a ddarperir gan eu cyflogwyr, gall gweithwyr o bob cefndir a diwydiant edrych ymlaen at ymddeoliad.

Cyflogi rhywun am y tro cyntaf?

Mae’n foment fawr i chi – rydych wedi penderfynu cyflogi eich aelod o staff cyntaf. Waeth pa mor hir rydych wedi bod yn rhedeg eich sefydliad, yr adeg rydych yn cyflogi’ch gweithiwr cyntaf, mae gennych ddyletswyddau cyfreithiol o dan ymrestru awtomatig sy’n dechrau ar y diwrnod y maent yn dechrau gweithio.

O dan y Ddeddf Pensiynau 2008, rhaid i bob cyflogwr yn y DU ymrestru eu staff cymwys i mewn i bensiwn y gweithle, a thalu i mewn iddo. Os ydych yn cyflogi o leiaf un person, mae hynny’n golygu eich bod yn gyflogwr, ac yn ôl y gyfraith mae gennych gyfrifoldebau y mae angen i chi weithredu arnynt.

Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud mewn dim ond munud

Mae’n cymryd munud yn unig i gyfrifo’r hyn y mae angen i chi ei wneud wrth ddefnyddio ein teclyn ar-lein. Bydd yn eich tywys trwy’r broses o sefydlu pensiwn gweithle, ac mae’n ffordd hawdd o ddarganfod popeth rydych angen ei wybod.

Bydd y teclyn syml hwn yn gofyn i chi ychydig o gwestiynau byr amdanoch chi a’ch staff, a bydd yn dangos i chi’r hyn y mae angen i chi ei wneud, gan eich helpu i fynd i’r afael â’ch cyfrifoldebau pensiwn gweithle.

Ddim yn siŵr os ydych yn gyflogwr?

Os ydych yn didynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o enillion y person rydych yn eu cyflogi, yna fel arfer chi yw eu cyflogwr. Os ydych wedi defnyddio asiantaeth i gyflogi’r person a’r asiantaeth sy’n talu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yr asiantaeth yw’r cyflogwr ac nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Beth os nad oes gennyf unrhyw staff?

Nid yw dyletswyddau ymrestru awtomatig yn berthnasol pan na ystyrir cwmni neu unigolyn i fod yn gyflogwr. Er enghraifft, efallai nad ydych bellach yn cyflogi staff, rydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu neu chi yw cyfarwyddwr cwmni heb weithwyr eraill. Os nad oes gennych staff ac felly rydych yn credu nad ydych yn gyflogwr ar hyn o bryd, mae angen i chi ddweud wrthym drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein. Os nad ydych yn siwr am eich statws, gallwch wirio ein cyngor i ddeall eich camau nesaf.

Cyfrifoldebau parhaus

Mae darparu pensiwn gweithle yn broses barhaus i gyflogwyr, ac mae cyfrifoldebau parhaus i’w wneud ar ôl i chi ddatgan eich cydymffurfiad i’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn y lle cyntaf.

Darganfyddwch fwy am eich dyletswyddau parhaus.

Pwy yw’r Rheoleiddiwr Pensiynau?

Y Rheoleiddiwr Pensiynau yw Rheoleiddiwr cynlluniau pensiwn gweithle yn y DU. Maent yn sicrhau bod cyflogwyr yn dilyn eu cyfrifoldebau pensiwn gweithle, a bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn iawn, er mwyn galluogi pobl i gynilo’n ddiogel ar gyfer eu hymddeoliad. Maent yn cysylltu â chyflogwyr yn rheolaidd i roi gwybod iddynt am bwyntiau allweddol yn y broses ymrestru awtomatig.

Mae eu gwefan yn llawn offer ac adnoddau hawdd i’w ddefnyddio a fydd yn eich helpu i lywio’ch cyfrifoldebau cyfreithiol mor esmwyth â phosib. Mae’n cynnwys teclyn ar-lein sydd wedi’i gynllunio i fod yn hawdd i’w ddefnyddiowch, a bydd yn eich tywys gam wrth gam trwy ymrestru awtomatig; llythyrau templed i chi eu lawrlwytho a’u hanfon at eich staff; a’r holl wybodaeth ar gyfer ymrestru awtomatig y byddwch ei angen, wedi’i gyflwyno mewn ffordd syml a hygyrch.

Darganfyddwch eich cyfrifoldebau.