Mae’r dudalen hon (wedi’i chymryd gyda’r dogfennau a thudalennau mae’n cyfeirio atynt) yn dweud wrthych y telerau defnydd rydych yn cytuno iddynt pan fyddwch yn defnyddio workplacepensions.gov.uk. Mae’r safle hwn yn cael ei reoli gan {yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Rheolydd Pensiynau (TPR)}, sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet (y cyfeirir atynt fel ‘ni’ isod).

Cafodd y dudalen hon ei lansio ar 2 Hydref 2015 a bydd yn cael ei diweddaru o dro i dro.

Defnyddio workplacepensions.gov.uk

Mae’r safle hwn yn cael ei gynnal ar gyfer eich defnydd personol.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw’n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar neu’n atal defnydd a mwynhad, o’r safle hwn gan unrhyw drydydd parti.

Rydym yn anelu i ddiweddaru ein safle yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg.

Trwy ddefnyddio’r safle hwn, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, peidiwch â defnyddio ein safle.

Gwybodaeth neu drafodion ar-lein

Wrth ddefnyddio workplacepensions.gov.uk efallai y byddwch yn cael mynediad at wasanaeth neu drafodiad ar-lein y llywodraeth sy’n cael ei gyflenwi gan adran o’r llywodraeth neu asiantaeth neu gorff arall y tu allan i’r llywodraeth sy’n darparu gwybodaeth am bensiynau. Gall pob un o’r gwasanaethau neu ffynonellau gwybodaeth hyn gael eu telerau ac amodau eu hunain neu trwyddedau defnyddiwr terfynol sy’n gymwys yn unig i’r gwasanaeth hwnnw. Wrth ddefnyddio unrhyw wasanaeth neu safle, dylech sicrhau eich bod yn darllen y telerau ac amodau perthnasol cyn cwblhau unrhyw weithgaredd ar y safle.

Cysylltu i ac o workplacepensions.gov.uk

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â’r wybodaeth a ddangosir ar y tudalennau hyn, ac nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu â workplacepensions.gov.uk.

Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â, neu wedi’i gymeradwo gan, workplacepensions.gov.uk neu i wneud unrhyw un o’r pethau canlynol:

  • Newid neu geisio newid y wybodaeth sy’n cael ei darparu gan GOV.UK.
  • Creu neu geisio creu dolenni i wybodaeth y bwriedir naill ai i gamarwain defnyddwyr sy’n ceisio deall eu hawliau neu gyfrifoldebau pensiwn neu sy’n cael ei gyhoeddi heb gymryd gofal priodol i sicrhau ei fod yn gywir.

Ble mae ein safle yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, mae’r dolenni hyn yn cael eu darparu er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o’ch defnydd ohonynt.

Defnyddio cynnwys workplacepensions.gov.uk

Mae workplacepensions.gov.uk yn cael ei gyhoeddi o dan y trwydded Llywodraeth Agored, a gallwch atgynhyrchu gwybodaeth o’r safle cyn belled ag y byddwch yn ufuddhau telerau’r trwydded honno.

Mae’r deunydd a geir ar y wefan hon yn destun i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Darllenwch y dudalen Hawlfraint y Goron am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal, rydym yn gwneud llawer o’n gwybodaeth ar gael trwy ei fwydo i drydydd partïon ar gyfer ei ddefnyddio ar wefannau neu systemau eraill. Dylech fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad ein cynnyrch ni yw’r rhain. Gall y systemau hyn ddefnyddio fersiynau o’n gwybodaeth a chanllawiau sydd wedi’i golygu neu sy’n wybodaeth dros dro. Bydd y fersiwn mwyaf diweddar o’n gwybodaeth bob amser ar gael ar wefan workplacepensions.gov.uk. Nid ydym yn darparu unrhyw sicrwydd neu warant ynghylch cywirdeb unrhyw gynhyrchion trydydd parti o’r fath ac nid ydym, o dan unrhyw amgylchiadau, yn derbyn cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a achoswyd gan ddefnyddwyr cynhyrchion trydydd parti o’r fath.

Ymwadiad

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw workplacepensions.gov.uk yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw sicrwydd, amodau na warantau ynghylch cywirdeb y wybodaeth ar y safle ac yn enwedig sut y mae hyn yn berthnasol i amgylchiadau personol pob unigolyn. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod, yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth a allai fod ar gael i chi ar y safle, yn cymryd cyngor proffesiynol ar faterion pensiynau cyn gwneud penderfyniadau am eich darpariaeth pensiwn p’un a ydych yn gyflogwr neu’n weithiwr.

Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod a achoswyd gan ddefnyddwyr y wefan, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, os achoswyd trwy gamwedd, torri contract neu fel arall, mewn cysylltiad â’n safle, ei ddefnydd, yr anallu i’w ddefnyddio, neu ganlyniadau’r defnydd o’n safle, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau a gyhoeddir arno. Mae hyn yn cynnwys colli:

  • Incwm neu refeniw
  • Busnes
  • Elw neu gontractau
  • Arbedion disgwyliedig
  • Data
  • Ewyllys da
  • Eiddo diriaethol
  • Gwastraffu rheolaeth neu amser swyddfa

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, neu ein hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio ynghylch mater sylfaenol, neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol.

Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â workplacepensions.gov.uk

Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’n polisi preifatrwydd. Trwy ddefnyddio ein safle, rydych yn rhoi caniatâd i brosesu o’r fath ac mae hyn yn golygu eich bod yn dweud bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu, fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad ydych, wrth ddefnyddio’r wefan hon, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n eich gwneud yn agored i bob math o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu ffurfiau eraill o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol chi.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein safle trwy gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol neu trwy gymryd camau sy’n fyrbwyll os byddech yn achosi niwed o’r fath neu beidio yn fwriadol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n safle, y gweinydd y mae ein safle yn cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n safle. Rhaid i chi beidio ymosod ar ein safle trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth, ymosodiad gwrthod gwasanaeth wedi’i ddosbarthu neu unrhyw fath arall o ymosodiad.

Os ydych yn torri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych iddynt hwy.

Cyfraith lywodraethol

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan neu mewn perthynas â’r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn os bydd methiant o’r fath o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Os byddwn yn ildio unrhyw hawliau sydd gennym o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny’n cael eu hildio ar unrhyw achlysur arall.

Os yw unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn cael eu darganfod i fod yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau eraill serch hynny yn parhau mewn grym yn llawn.

Diwygiadau i’r telerau hyn

Gallwn ddiwygio’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Gwiriwch y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd, gan fod eich defnydd parhaol o’r wefan workplacepensions.gov.uk ar ôl i newid cael ei wneud i’r telerau yn dangos eich bod yn derbyn y newid.