Am gyfrifiannell cyfraniad y cyflogwr

Sut mae isafswm cyfraniad y cyflogwyr yn cael ei gyfrifo

Mae’r isafswm mae’n rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn yn ôl y gyfraith (tan ddiwedd Ebrill 2018) yn cyfateb i un y cant o gyfran o’ch enillion.

Ym mis Ebrill 2018 bydd hyn yn cynyddu i ddau y cant, yna ym mis Ebrill 2019 bydd yn cynyddu eto i dri y cant.

Nid yw isafswm y ganran yn berthnasol i’ch holl enillion. Mae ond yn gymwys i’r hyn rydych yn ennill dros isafswm (yn 2015/16 roedd hyn yn £5,824 y flwyddyn neu £486 y mis, neu £448 bob pedair wythnos, neu £112 yr wythnos) hyd at fwyafswm (ar hyn o bryd £43,000 y flwyddyn, neu £3,583 y mis, neu £3,308 bob pedair wythnos, neu £827 yn wythnosol).

Nodwch:

Gall eich cyflogwr gyfrannu mwy na’r isafswm sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith os ydynt yn dymuno. Felly, gallai’r ffordd mae eich cyflogwr mewn gwirionedd yn cyfrifo eu cyfraniad i’ch pensiwn gweithle fod yn wahanol.

Er enghraifft, gallai eich cyflogwr ddewis i gyfrifo eu cyfraniad at eich pensiwn yn seiliedig ar y cyfan o’ch cyflog, a/neu gallent ddewis cyfrannu canran uwch os ydynt yn dymuno.

Os ydych eisoes mewn pensiwn yn y gwaith ond nid yw’n cwrdd â’r rheolau newydd (er enghraifft, mae eich cyflogwr yn talu llai na’r isafswm gofynnol), ac rydych yn bodloni’r meini prawf oedran ac enillion, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr naill ai newid y cynllun pensiwn presennol i fodloni’r rheolau newydd neu eich ymrestru mewn cynllun newydd (un sy’n bodloni’r rheolau newydd).

Enillion sy’n llai na’r isafswm

Os ydych yn ennill llai na’r isafswm (a restrir uchod) nid oes rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn gweithle. (Gallant ddewis gwneud hynny os ydynt yn dymuno).

Felly, wrth ddefnyddio’r gyfrifiannell hon os ydych yn rhoi ffigwr sydd yr un fath neu’n llai na’r isafswm a restrir uchod, byddwch yn cael allbwn o £0.00.

Enillion sy’n fwy na’r mwyafswm

Os ydych yn ennill mwy na’r terfyn uchaf (a restrir uchod), mae’r isafswm mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu i mewn i’ch pensiwn yn seiliedig ar y terfyn uchaf, hyd yn oed os ydych yn ennill mwy na hynny. Felly, os ydych yn mewnbynnu ffigwr uwch na’r terfyn uchaf, byddwch yn cael allbwn sy’n seiliedig ar y terfyn uchaf dim eich cyflog gwirioneddol.

Mae eich ffigurau yn gyfrinachol

Ni fydd unrhyw un yn eu gweld, eu storio na’u trosglwyddo i unrhyw un arall.

Beth yw rhyddhad treth?

Os ydych yn ennill mwy na swm penodol (£11,000 y flwyddyn), mae’r llywodraeth yn cymryd treth o’ch incwm. Gallwch weld hyn ar eich slip cyflog. Mae rhyddhad treth yn golygu bod rhywfaint o’ch arian a fyddai wedi mynd i’r llywodraeth fel treth nawr yn mynd i mewn i’ch cronfa bensiwn yn lle hynny. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae rhyddhad treth yn gweithio ar gael yma.

Os nad ydych yn drethdalwr, efallai y byddwch yn dal i allu cael swm fel rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn yn dibynnu ar sut mae cynllun pensiwn eich cyflogwr yn gweithredu rhyddhad treth. Gofynnwch i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn am fwy o wybodaeth.

Beth os nad wyf yn siwr os gallaf fforddio talu i mewn i bensiwn gweithle?

I lawer o bobl, mae talu i mewn i gynllun pensiwn gweithle yn syniad da – hyd yn oed os oes ganddynt ymrwymiadau ariannol eraill, fel morgais neu fenthyciad. Mae hyn oherwydd nid chi yw’r unig un sy’n rhoi arian i mewn. Rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu hefyd, ar yr amod eich bod yn ennill mwy na’r isafswm a restrir uchod.

Bydd y rhan fwyaf o bobl hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth.

Dros amser, mae’r arian hwn yn cynyddu a gallu tyfu.

Ond dylech wneud yn siwr y gallwch fforddio i gwrdd â’ch ymrwymiadau eraill. Os ydych y tu ôl ar eich taliadau fel morgais, rhent, cerdyn credyd neu daliadau dyledion eraill yna efallai nid pensiwn fyddai’r cam cywir ar hyn o bryd. Mae’n rhywbeth y dylech ddod yn ôl ato yn nes ymlaen, unwaith y bydd eich dyledion yn fwy o dan reolaeth.

Os byddwch yn dechrau cynilo i mewn i bensiwn gweithle ond wedyn ychydig o fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach eich bod am roi’r gorau i dalu, gallwch wneud hynny. Efallai y byddwch am wirio gyda phwy bynnag sy’n rhedeg eich cynllun pensiwn beth sy’n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r gorau i dalu, a sut i ailymuno.

Gallwch ddechrau talu i mewn i gynllun eich cyflogwr eto yn nes ymlaen, os byddwch yn penderfynu eich bod eisiau gwneud hynny. Rhaid i’ch cyflogwr eich derbyn i mewn i’w gynllun pensiwn unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeg mis.

Os byddwch yn dewis eithrio allan neu roi’r gorau i wneud taliadau, bydd eich cyflogwr yn eich ymrestru’n awtomatig yn ôl i’w pensiwn yn y dyfodol. Mae hyn fel arfer bob tair blynedd. Mae hyn oherwydd y gallai eich amgylchiadau fod wedi newid ac efallai y bydd yr amser iawn i chi i ddechrau cynilo. Bydd eich cyflogwr yn cysylltu â chi ac yna gallwch ddewis i aros yn y pensiwn gweithle neu eithrio allan.

Os ydych yn cael trafferth â dyledion ac hoffech gael cyngor ar sut i reoli eich arian, efallai y bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn fan cychwyn da.

Faint o arian a allwn ei gael gan fy mhensiwn gweithle pan fyddaf yn ymddeol?

Mae incwm o bensiwn yn cael eu bennu gan amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys twf y gronfa, cyfraddau blwydd-dal a hanes gwaith. Byddwch yn gallu cael amcangyfrif o’ch incwm o bensiwn gan eich darparwr pensiwn. Mae gan rai darparwyr pensiwn cyfrifianellau incwm o bensiwn sydd hefyd yn rhoi syniad o’r hyn y gallech ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

Nodwch:

Nid yw’r gyfrifiannell cyfraniad y cyflogwr wedi’i gynllunio ar gyfer cynlluniau pensiwn gweithle ‘Buddion Diffiniedig’ megis ‘cyflog terfynol’ neu bensiynau ‘cyfartaledd gyrfa’. Os oes gennych y math hwn o bensiwn gweithle dylech wirio gyda darparwr eich cynllun i gael gwybod faint y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei gyfrannu.