Herio’r Myth am Bensiwn Gweithle

Bydd ymrestru awtomatig i bensiwn gweithle yn ei gwneud yn haws i bobl ddechrau cynilo ar gyfer eu hymddeoliad. Erbyn 2018, bydd wedi bod yn ofynnol i bob cyflogwr presennol gofrestru eu gweithwyr cymwys i gynllun pensiwn gweithle os nad ydynt eisoes mewn un, a bydd yn rhaid i bob cyflogwr newydd gynnig un i’w gweithwyr newydd cyn gynted ag y maent yn dechrau eu cyflogaeth.

Mae llawer o ddryswch ynghylch pensiynau a chynilo. Gall y mythau pensiwn hyn wneud i bobl deimlo’n ddryslyd ynghylch yr hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn ariannu eu hymddeoliad. Rydym wedi egluro rhai mythau cyffredin am bensiwn isod.

Nid yw'n werth cynilo ar gyfer pensiwn

ANGHYWIR! Gall y rhan fwyaf o bobl ddisgwyl i gael mwy yn ôl ar ôl ymddeol nag y maent yn ei dalu i’w pensiwn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cynilo i mewn i bensiwn gweithle hefyd yn elwa o gyfraniadau gan eu cyflogwr a’r llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth*.

*Mae rhyddhad treth yn golygu bod rhywfaint o’ch arian a fyddai wedi mynd i’r llywodraeth fel treth incwm yn mynd i mewn i’ch pensiwn gweithle yn lle hynny.

Mae'n mynd i fod yn gymhleth

ANGHYWIR! Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i elwa o bensiwn gweithle – dros y blynyddoedd nesaf, bydd pob gweithiwr sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle maes o law.

Fy nhŷ fydd fy nghronfa bensiwn

BYDDWCH YN OFALUS! Nid yw eiddo yn caniatáu i chi ledaenu eich arian ar draws ystod o fuddsoddiadau gwahanol fel mae pensiwn yn ei wneud, ac nid oes ganddo’r un manteision treth.

Gallaf ond talu ychydig bach i mewn felly nid yw'n werth chweil

ANGHYWIR! Bydd eich cyfraniad at eich pensiwn gweithle yn ganran o’ch cyflog. Rydych hefyd yn debygol o elwa o gyfraniad gan eich cyflogwr ac hefyd mae’n bosibl cael rhyddhad treth * gan y llywodraeth

*Mae rhyddhad treth yn golygu bod rhywfaint o’ch arian a fyddai wedi mynd i’r llywodraeth fel treth incwm yn mynd i mewn i’ch pensiwn gweithle yn lle hynny.

Rwy'n rhy hen i ddechrau cynilo

ANGHYWIR! Mae’n well i ddechrau yn gynnar, ond oni bai bod eich ymddeoliad ond ychydig fisoedd i ffwrdd, mae dal amser i chi gronni rhywfaint o arian.

Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn ddigon

BYDDWCH YN OFALUS! BYDDWCH YN OFALUS! Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn sylfaen, ond i lawer o bobl, gallai dibynnu ar hyn yn unig olygu gostyngiad mewn incwm ar ôl ymddeol. Mae cynilo i mewn i bensiwn gweithle yn golygu y bydd gan bobl fwy o arian i barhau i wneud y pethau maent yn eu mwynhau pan fyddant yn ymddeol.

Mae ymddeol i weld yn bell i ffwrdd - mae'n rhy gynnar i ddechrau cynilo

Er y gallai ymddeoliad ymddangos ei fod yn bell i ffwrdd, nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau cynilo! Mae cynilo drwy bensiwn gweithle yn hawdd ac nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth mewn gwirionedd oherwydd y bydd eich cyflogwr yn eich ymrestru. Y cynharaf y byddwch yn dechrau cynilo, y mwyaf o arian y bydd gennych pan fyddwch yn dod i ymddeol oherwydd bod eich arian yn cael amser i dyfu.

Os ydych am gael gwybod mwy am gael ymrestru’n awtomatig ar gyfer pensiwn gweithle, ewch i’n canllaw ar GOV.UK i gael gwybod mwy.